SL(5)355 - Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Gorchymyn hwn yn creu cynllun ar gyfer dyroddi a thalu hysbysiadau cosb ynglŷn â throseddau penodol yn ymwneud â physgota môr. Mae’n dirymu Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau’r Gymuned) (Hysbysiadau Cosb) 2008 gan ddisodli hwnnw â chynllun sy’n gymwys i droseddau a grëir o dan ddeddfwriaeth ddomestig yn ogystal â’r rhai sy’n codi o ganlyniad i dorri cyfyngiad cymunedol gorfodadwy neu rwymedigaeth arall.  

Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer dyroddi hysbysiad cosb (erthygl 3), cynnwys hysbysiad o’r fath (erthygl 4), ac effaith a dull talu cosb (erthyglau 5 a 6).  Mae’n gwneud darpariaeth hefyd ynglŷn â dyroddi hysbysiadau cosb i bersonau gwahanol am yr un drosedd sy’n codi o’r un set o amgylchiadau lle trinnir taliad gan un person fel pe bai’n daliad gan berson arall, os nad yw’r llall yn gwrthwynebu (erthygl 7).  Darperir hefyd ar gyfer tynnu hysbysiad cosb yn ôl (erthygl 9).

Caiff meistr, perchennog neu siartrwr cwch pysgota sydd o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi talu cosb wneud cais am gael ei roi ar brawf am y drosedd (erthygl 10), ac os felly trinnir yr hysbysiad cosb fel pe na bai wedi ei ddyroddi erioed ac ad-delir y gosb os ceir rhyddfarniad neu os rhoddir y gorau i’r achos llys perthynol.  Os ceir collfarniad, trinnir yr hysbysiad cosb fel pe bai heb ei ddyroddi erioed hefyd, ond mae’n rhaid i’r gosb gael ei gosod tuag at dalu unrhyw ddirwy a roddir. 

Gweithdrefn

Negyddol

Materion technegol: craffu

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Mae'r rhagarweiniad yn dyfynnu adran 294 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, sy'n rhoi pwerau sy'n ymwneud â hysbysiadau cosb i Weinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol mewn perthynas â Chymru neu longau ym mharth Cymru (adran 294(8)).  Yn yr is-adran honno, rhoddir pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr neu longau y tu allan i barth Cymru. 

Fodd bynnag, mae erthygl 1(3) o'r Gorchymyn yn nodi “Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru, parth Cymru, a chychod pysgota Cymru ym mha le bynnag y bônt.”  O ystyried y cyfyngiad daearyddol clir yn adran 294(8), ymddengys fod yr elfen sy'n nodi 'ym mha le bynnag y bônt' yn erthygl 1(3) y tu hwnt i bwerau Gweinidogion Cymru.

[Rheol Sefydlog 21.2(i) – ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires.]

 

Rhinweddau: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â'r offeryn hwn – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy'n debyg o fod o ddiddordeb i'r Cynulliad.

Mae erthygl 6(2) o'r Gorchymyn yn atal defnyddio arian parod i dalu cosbau a rhoddir o dan y Gorchymyn hwn.  Nid yw'r Memorandwm Esboniadol yn egluro pam na chaniateir defnyddio arian cyfreithlon.

 

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

12 Mawrth 2019